Cyngor Cymuned Llandwrog Logo
  O'r Môr...   Cenhinen Bedr   Pili-pala   ..i'r Mynydd  
Cerrig Beddi

Yn gyfreithiol ni chaniateir gosod unrhyw gofeb , neu unrhyw waith tebyg, ar fedd yn ein mynwentydd heb yn gyntaf ei chymeradwyo yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig gan y Cyngor. Bydd rhaid anfon y ffurflen briodol wedi ei chwblhau’n llawn ac yn dangos manylion y gofeb at y Clerc i’w hystyried gan y Cyngor. Rhoddir hawl gweithredu i’r Clerc, ond pan fo angen gall y Clerc ymgynghori a’r Cadeirydd i ddatgan barn yn enw’r Cyngor. Disgwylir i'r gwaith fod o safon Côd Ymddygiad y National Association of Memorial Masons ac i "British Standard 8415".

Ni chaniateir unrhyw waith heb i'r Clerc dderbyn Ffurflen Rhyddarbediad wedi ei arwyddo gan deilydd yr Hawl Claddu Cyfyngedig.

Perchen y bedd sydd yn gyfrifol am diogelwch unrhyw gofeb feini a osodir ar fedd. Dylai carreg newydd fod yn ddiogel am gyfnod o ugain mlynedd os y gosodir yn gywir. Os daw'r carreg yn rhydd , neu os yn gwyro, cysylltwch a saer maen, neu Clerc y Cyngor

Dywed yr NAMM ( National Association of Monumental Masons) mai cyfrifoldeb seiri maen yw diogelwch carreg fedd newydd am y chwe mlynedd cyntaf wedi ei osod. Wedi'r cyfnod hwn cyfrifoldeb deilydd yr Hawl Claddu Cyfyngedig ydyw diogelwch y garreg. Os nad oes deilydd , neu os y darganfyddir nad oes posib olrhain teulu, yna cyfrifoldeb perchen y tir ydyw o dan ddeddfwriaeth "The Duty of Care". Y perchen , wrth gwrs, yw Cyngor Cymuned Llandwrog.

Ffurflen Gosod Cofeb - ddim ar gael ar hyn o bryd

Polisi Gosod Cofeb -ddim ar gael ar hyn o bryd

 

 

© Cyngor Cymuned Llandwrog
Gwefan gan www.cymru1.net