Cyngor Cymuned Llandwrog Logo
  O'r Môr...   Cenhinen Bedr   Pili-pala   ..i'r Mynydd  
Diffiniadau

Priffyrdd bychain yw hawliau cyhoeddus ac mae gan y cyhoedd hawl tramwyo arnynt. Mae pedwar math gwahanol o hawl tramwyo sef-

Llwybrau Traed / Footpaths - hawl i gerdded yn unig.

Llwybrau March neu Llwybrau Ceffyl ( Bridleways ) - hawl i gerddwyr a marchogwyr , ac hawl i arwain anifaeliaid . Noder fod gan seiclwyr hawl statudol i fod ar gefn beic ar lwybrau ceffyl.

Culffyrdd / Byways - lle mae hawl tramwyo i drafnidiaeth, a phob math o gerbydau, ond sydd yn defnyddio llwybr neu llwybrau ceffylau yn bennaf.

Culffyrdd Cyfunedig / Restricted Byways - hawl tramwyo i gerddwyr, i farchogwyr , ac i gerbydau sydd yn cel ei dynnu gan geffyl , ar wahan i gerbydau mecanyddol. Yn ychwanegol , llwybrau traed a llwybrau ceffylau ydi llwybrau cyhoeddus

Mapiau Terfynol - Difinitive Maps - dangosir y mwyafrif o hawliau tramwyo yng Nghymru ar y Mapiau Terfynol. Cynghorau Sir sydd a chyfrifoldeb am ddiweddaru'r mapiau yng Nghymru.

 

© Cyngor Cymuned Llandwrog
Gwefan gan www.cymru1.net