Cyngor Cymuned Llandwrog Logo
  O'r Môr...   Cenhinen Bedr   Pili-pala   ..i'r Mynydd  
Is-bwyllgor Y Fron

Ebrill, 2008,  Cyfarfod Cyhoeddus.

Ymhellach i`r Ymgynhoriad Cyhoeddus yn Y Fron mis Mawrth 2007, cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus yn ysgol Bronyfoel, Y Fron, nos Lun,  Ebrill, 28  am 7:00 y.h. - i gyflwyno darganfyddiadau`r ymgynghoriad. Gwerthfawrogir eich presenoldeb.

Bydd offer cyfieithu ar gael ar y noson i hwyluso`r trefniadau, ac fe fydd lluniaeth ysgafn.

17 Ionawr 2007 Yn dilyn datblygiad pwysig gan Gyngor Cymuned Llandwrog beth amser yn ôl i sefydlu Is-bwyllgor arbennig i ymdrin ag amgylchiadau cymunedol, economaidd ac amgylcheddol pentref Y Fron, bydd ymgynghoriad gyhoeddus yn cymryd lle mis Chwefror 2007 i alluogi’r Is-bwyllgor i adnabod dymuniad y trigolion am y gwelliannau i’w gwireddu.  Gellir wedyn blaenoriaethu`r gwelliannau ar gyfer llunio ceisiadau am gyllid pe cyfyd cyfleoedd o gynlluniau grant.  Daw canlyniad pwysig o’r ymgynghoriad o fod â’r gallu i gyflwyno cais wedi ei atgyfnerthu wrth adlewyrchu dymuniad a dyhead y trigolion a’i sylfaenu a’r drefniant ffurfiol i ddarganfod barn unigolion.

Mae aelodau yr Is Bwyllgor yn cynnwys nid yn unig cynghorwyr ardal Y Fron ag aelodau eraill y Cyngor Cymuned, ond hefyd rhai o drigolion lleol.  Mae natur yr Is-bwyllgor yn fwriadol yn debyg i bwyllgor pentref ac efallai y gall arwain at greu pwyllgor annibynnol yn y dyfodol agos i gymryd yr awennau er bwrw ymlaen i geisio arian grant.

Y bwriad gyda’r wybodaeth yma yw i dynnu sylw at yr ymgynghoraid ac i annog cydweithrediad gan drigolion Y Fron gyda’r fenter pwysig yma.  Cynhelir cyfarfod gyhoeddus ar ddiwedd yr ymgynghoriad a bydd cyfle i’r trigolion i lleisio barn a sylwadau ar gyfer yr adroddiad terfynol.

Anfonwch gair atom ar neges e- Bost.> clic < 'Rydym yn awyddus iawn i dderbyn eich ymateb.

Cyng Gwyn Owen Jones, Y Fron

© Cyngor Cymuned Llandwrog
Gwefan gan www.cymru1.net