Llwybr Cae Llywarch |
|
Llwybr Troed / Footpath Cychwyn wrth Penrallt Cottages ar y ffordd rhwng Groeslon a Llandwrog i gyfeiriad gogleddol trwy ddwy giat a dros ddau gamfa (newydd) tuag at Fferm Cae Llywarch Mawr, yna dilyn lôn fferm nes cyrraedd ffordd fawr Caernarfon-Pwllheli gyferbyn a'r cyffordd i Ty'n Lôn. Arferai'r llwybr redeg am 200 llath o Fferm Cae Llywarch Mawr ac ymlaen at berthlys (copse) bychan ar ffordd fawr Caernarfon-Pwllheli. Arferai fod camfa yma a pont troed bychan ym mhen pella y perthlys. Yn anffodus nid oes modd dod ar draws y rhan yma o'r llwybr ac rhaid felly dilyn y trac lawr i'r prif-ffordd. Wrth groesi'r ffordd fawr mae'r llwybr yn croesi cae nes cyrraedd Mount Hazel, Ty'n Lôn. Gwair yw arwyneb mwayfrif o'r llwybr. Arferid ei ddefnyddio yn helaeth gan y cyhoedd. Mae'r cyhoedd wedi mwynhau cerdded y llwybr hwn ers blynyddoedd maith . Defnyddiwyd y llwybr gan chwarelwyr o Bethesda Bach a Ty'n Lôn. Llwybr rhif 12 ar y map Cychwyn ger Penrallt Cottages, Groeslon Cyrhaeiddir at y giatiau... Trwy'r ail giat nes cyrraedd... Penrallt Cottages sydd yn y cefn... Camfa arall,Cae Llywarcg Mawr sydd i'r dde... Cyrheiddir at y giat yma weth y beudy... Ty Fferm Cae Llywarch Mawr Ty'n Lon i'r golwg... Y llwybr yn cyrraedd prif-ffordd Caernarfon-Pwllheli. Noder fod y llwybr gwreiddiol yn cyrraedd y lôn tua 100 llath i'r chwith ac yn croesi'r ffordd i Ty'n Lôn. Camfa yn Ty'n Lôn yn arwain i'r ffordd fawr.
|




