Llwybr Plas Mawr |
|
Cychwyn tua 150 llath heibio Glynllifon Terrace, Groeslon ar yr ochr dde i ffordd Groeslon-Llandwrog. Tros 'cattle grid' , ac i lon drol ger Fferm Plas Mawr.Cyrhaeiidir at dau pont troed bychain, un dros yr Afon Llifon ar llall dros cwrt ger Hen Felin Llwyngwalach. Rhêd y llwybr yn ei flaen trwy tyddyn Llwyn Y Piod. Yna mae'r llwybr yn fforchio i ddau gyfeiriad , tua 50 llath heibio fan hyn, un i gyfeiriad gogledd-dwyreinoiol ar drwas caeau, a tros 3 camfa ac ymlaen i ffordd Llwyngwalch tua 70 llath orllewinol ger Hen Felin Llwyngwalch. Yr ail i gyfeiriad orllewinol am tua 180 llath trwy giat fferm, troiad sharp i'r dde ac heibio tir garw nes cyrraedd Lon Llwyngwalch ger giat haearn. Defnyddir y llwybr yn helath gan trigolion lleol. Lôn Drol , rhif 14 ar y map Cychwyn o'r lôn Glynllifon.Plas Mawr sydd i'w weld yma. Pwy sy'n cofio cae pel-droed yma? Plas Mawr... Pont yn croesi'r Afon Llifon..y llwybr yn rhedeg hyd talcen y ty Nant Y Mynydd Groyw Loyw..Afon Llifon yn rhedeg o Carmel (Nant yr Hafod) Y Llwybr yn arwain at giat , ac yn fforchio i ddau gyfeiriad yma... Y cyntaf hebio stablau Llwynpiod nes cyrraedd y giat yma..rhaid troi i'r dde.... Giat arall yn arwain i lôn Groeslon-Bethesda Bach ger y giat galfanedig... Cerdded oddeutu 50 llath am y yr hen Felin nes cyrraedd camfa sydd i'r dde ac sydd yn arwain yn ôl i Llwynpiod Y gamfa yn arwain at Llwynpiod..i.. Camfa eto.... Ysdol yn arwain i'r gamfa..(y llun yma i gyfeiriad y gogledd sef i lôn Bethesda Bach-Groeslon) Camfa yn arwain yn ôl i Lwynpiod.
|




