Llwybr Stesion Tryfan i Tyddyn Isaf , Y Bryn |
|
Cychwyn oddeutu 120 llath i'r dwyrain o Tryfan Uchaf ar yr ochr dde i'r lôn gyhoeddus (i'r Bryn) gweler giat haearn sydd yn arwain i gyfeiriad de-ddwyreiniol ar draws tir eithaf garw ymlaen i iard fferm BraichTri Gwr Mawr. Yma mae'r llwybr yn ymuno a Llwybr 31 a Llwybr 38. Rhêd llwybr 31 i gyfeiriad Bryngwyn a Bryn Gwynfa tra ma llwybr Nant yr Hafod a llwybr 38 yn arwain at Nant yr Hafod (yn ymuno a Llwybr 40 .Fodd bynnag o Braich Tri Gwr Mawr mae'r llwybr yma yn arwain at Ffridd ac ymlaen at Tyddyn Isaf , Y Bryn. Arferai chwarelwyr o Llanwnda, Rhos Isaf a Rhostryfan ddefnyddio'r llwybr flynyddoedd yn ôl tra'n gweithio yn chwareli Cilgwyn a Penyrorsedd. Lon Drol, llwybr 30 ar y map Man cychwynar y lôn Bryn-Tryfan... Trwy llwyni.. Yn arwain i Braich Tri-gwr Mawr ac yn ymylu gyda Cerdd Y Mynydd ac Hafod Lwyfog i'r chwith.. Cyrhaeddir at giat fochyn i'r chwith.. O'r giat at dir agored... Mae'r eithin wedi gor-dyfu. Mae'r llwybr gwreiddiol yng nghanol yr eithin...
Braich Tri-gwr Mawr... Heibio'r 'Ffridd'.. Nes cyrraedd lon Bryn-Tryfan ger 'Tyddyn Isaf'sydd i'r dde
|




