Llwybr Tŷ Newydd Cim i Lôn Y Fron-Rhosgadfan |
|
Llwybr troed yn cychwyn o lôn eilradd Tanbwlch i gyfeiriad y gogledd ac heibio Ty Newydd Cim, ymlaen i gyfeiriad ddwyreiniol am Penbonc. Mae'r llwybr yn croesi Llwybr 33 wrth Glanrafon Fawr ac yn rhedeg yn ei flaen i gyfeiriad dwyreiniol heibio talcen Ty'n Pistyll nes cyrraedd lôn Fron-Rhosgadfan ger Ty Hwnt i'r Bwlch. Mae Llwybr 85 yn cychwyn gyferbyn ar lôn. Llywbr Troed, rhif 45 ar y map Cychwyn yn lôn Tanybwlch... I gyfeiriad Ty Newydd Cim. Nes cyrraedd camfa.. Ac yna giat. Rhêd y llwybr at giat fochyn sydd ar drwas y gors.. Sydd yn arwain at Glanrfon Fawr. Penbonc sydd yn y cefndir. I gyfeiriad Cim Giat newydd wedi ei osod yma. Isod, cyfeiriad y llwybr oddiwrth Glanrafon Fawr tuag at Ty'n Pistyll i prif ffordd Y Fron-Rhosgadfan. Noder nad oes llwybr i'r dde o'r giat mochyn, er fod hoel llwybr yno. Isod , pen y daith ger Ty Hwnt i'r Bwlch ar y ffordd Y Fron-Rhosgadfan.
|




