Llwybr Llyn Grafog - Tai Cowt, Y Groeslon |
|
Lôn Drol - Cart Road . Llwybr yn cychwyn o'r prif ffordd Caernarfon-Penygroes gyferbyn a Gwaith Llechi Inigo Jones. Rhêd y llwybr i gyfeiriad dwyreiniol ac heibio Fferm Grafog yn ymylu a Llyn Grafog, ac yn rhedeg ymlaen i gyfeiriad y gogledd nes cyrraedd Llwybr 57 i Tai'r Cowt (Tai'r Court) y Groeslon. Mae'r hen Bwll neu Llyn Grafog bellach wedi cau gyda 'silt' ac dywedir ei fod yn beryglus. Llwybr poblogaidd iawn. Lôn drol, rhif 58 ar y map Camfa i'r Grafog... Cychwyn o lon Groeslon -Penygroes gyferbyn a gwaith llechi Inigo Jones Camfa yn iard Fferm Grafog , yn gwynebu i gyfeiriad lôn Groeslon-Penygroes Y llwybr i gyfeiriad Llyn Grafog.Noder fod giat mochyn i'r chwith. Yn arwain i Tai'r Cowt
|




