Llwybr Penygroes - Uwchlawrhos, Groeslon |
|
Llwybr Troed - Footpath Llwybr yn cychwyn oddifewn i ffiniau Cymuned Llanllyfni, sef llwybr 25. Cychwyn y daith wrth mynediad Gwynfa ger Bro Llwyndu, Penygroes . Rhêd y llwybr yn ei flaen nes cyrraedd Tyddyn Bach ac yna ymlaen at Fferm Uwchlawrhos ac yn ymuno a Llwybr 51 yma. Mae'r llwybr wedi cau oherwydd diffyg cynnal o'r gamfa uwch ben Tyddyn Isaf at y gamfa sy'n arwain i Fferm Uwchlawrhos. Llwybr troed rhif 60 ar y map. Cychwyn wrth Gwynfa (sydd i'r dde) ar y ffordd fawr ger Bro Llwyndu, Penygroes. Ymlaen at Tyddyn Bach..mae'r llwybr yn troi i'r dde o'r Tyddyn ac yn arwain at ddwy gamfa.... ..dringo'r camfeydd ac anelu am y gogledd i Fferm Uwchlawrhos...ond mae'r llwybr wedi cau oherwydd digffyg cynnal ..... ...rhaid chwilio am y Llwybr i gyfeiriad Fferm Uwchlawrhos... ...heibio'r llwyni nes cyrraedd at hen gamfa.Sylwer ar y postyn coch sydd yn dynodi cwrs y llwybr, ond mae gordyfiant wedi ei gau. Oddeutu 10 llath i'r dde o'r hen gamfa cyrheiddir at y gamfa newydd.... ..sydd yn arwain at Uwchlawrhos (y llun o gyfeiriad Uwchlawrhos) Perchennog Fferm Uwchlawrhos. Mr Lith Jones, yn arwain tramwywyr i'r cyfeiriad cywir... Y llwybr yn cychwyn o buarth Fferm Uwchlawrhos o'r giat sydd wrth y gwaith llechi yn y buarth.
|




