Llwybr Fron i Eifion House a Fron i Glangors |
|
Llwybr Troed / Footpath Llwybr yn cychwyn o'r ffordd gyhoeddus ger Chwarel Y Fron ac heibio Dyffryn Twrog a Gwyndy yna yn troi i gyfeiriad y gogledd ac i ben y tomen lechi. Yma, mae'r llwybr yn fforchio i ddau gyfeiriad. Y cyntaf i gyfeiriad de-orllewin heibio Tŷ Cerrig i lawr i Eifion House nes cyrraedd prif ffordd Fron-Rhosgadfan ger cyffordd Lôn Y Buarth. Yr ail i gyfeiriad gogledd-orllewin heibio Glangors ac i lawr nes cyrraedd lôn Fron-Rhosgadfan gyferbyn a Llwybr 45 Llwybr poblogaidd iawn gan trigolion lleol. Llwybr troed , rhif 85 ar y map Cychwyn yma ar y lôn rhwng y Fron a'r Cwm... Yr olygfa am Ddyffryn Nantlle.... Giat fochyn yn arwain at Dyffryn Twrog... Giat arall... Yn arwain at Dyffryn Twrog...
Giat Dyffryn Twrog. Rhaid croesi'r trac yma. Heibio Gwyndy... Twnel... Rhêd y llwybr trwy'r giat sydd ar y dde... Tir agored, rhêd y llwybr i ddaugyfeiriad yma. Un i'r chwith am Eifion House a'r ail ymlaen tuag at Glangors Tuag at Glangors. Cyrheiddir at giat... Llwybr yn arwain at y Glangors.... Giat pren... 'Glangors' Pen y daith , gyferbyn a Llwybr 45 Ger Eifion House, Lôn y Buarth.... Y llwybr yma yn ymuno ar prif lwybr Fron i Glangors ar ben y domen lechi.
|




