| Mawrth 2007 Adroddwyd nad yw Cyngor Gwynedd wedi derbyn archeb gan Cymad i osod grid ger Tomen Sibi a Penbwlch Bach, Carmel. Mynegwyd pryder gan yr Aelodau nad oedd y gwaith ffensio wedi cychwyn. Atgoffwyd yr aelodau fod y Cynllun yn dod i ben 31 Rhagfyr 2007. ‘Roedd yr Aelodau yn awyddus i dderbyn gwybodaeth gan Cymad o’r sefyllfa ddiweddaraf yn arbennig amserlen gosod y Grid wrth Tomen Sibi, gosod y ffensys a sefyllfa Tir Comin y Fron.
Penderfynwyd ysgrifennu at Cymed a gofyn am ddiweddariad o’r sefyllfa.
Chwefror 2007 Derbyniwyd e-bost gan Mr Elwyn Vaughan o Gwmni Cymad Cyf mew ymateb i lythyr gan y Clerc yn datgan “fod gwybodaeth bellach wedi ei danfon i’r Cynulliad er mwyn ceisio cael caniatâd ar gyfer y gwaith ar y tri safle olaf”. Cymad hefyd wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd “er mwyn medru bwrw ymlaen efo’r gwaith ffensio ac mae hefyd wedi cysylltu hefo Peirianneg Sifil Gelli i osod grid ger Tomen Sibi rhoi giatiau yn ôl lle mae rhai wedi eu dwyn” Disgwylir hefyd gadarnhad o gyfarfod o’r porwyr “er mwyn gweld pa gonsensws, os o gwbl, sydd yna o ran y wedd nesaf posib yn y Fron Adroddwyd gan y Cynghorydd Bryn Williams , Y Fron fod Cymdeithas y Porwyr wedi cyfarfod yn ddiweddar a dymuniad y porwyr oedd peidio â rhannu’r ddau dir comin oddi fewn y Cynllun ond yn hytrach ei gadw fel un. Mynegwyd pryder gan y Cyng. Alun Wyn Jones nad yw’r gwaith wedi cychwyn a bod yr amserlen, 31 Rhagfyr 2007, i gwblhau’r gwaith yn un tyn. Ionawr 2007 Cyflwyniad gan Mr Elwyn Vaughan , Cwmni Cymad. Pwrpas y cyflwyniad oedd i’r Aelodau dderbyn gwybodaeth o’r sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â Chynllun Tir Comin Uwch Gwyrfai. Cafwyd ychydig o gefndir ynglŷn â’r hynny sydd wedi digwydd.
Adroddwyd fod 10 lleoliad wedi ei adnabod i osod ffensys ar y tir comin a bod Llywodraeth y Cynulliad bellach wedi cymeradwyo i ffensio saith safle gan nad ydi’r safleoedd yma yn dod 'dan y Ddeddf 1925. Bydd angen cadarnhad uchder y ffens , lleoliadau’r camfeydd ac adwyon gyda’r tri safle nad ydi’r Cynulliad wedi rhoi caniatâd eto. Bwriedir dechrau ar y gwaith ar y saith safle yn fuan a rhagwelir y bydd y gwaith wedi cychwyn ymhen ychydig wythnosau. Mae’ polion a’r ffens wedi eu storio ers peth amser yn barod i gychwyn ar y gwaith. Gofynnwyd gan Aelod pwy oedd a chyfrifoldeb am gynnal a chadw’r ffens. Adroddwyd fod y gridiau yn rhan o’r Priffyrdd ac mai’r Cyngor Sir fyddai’n gyfrifol am eu cynnal, ac mai’r porwyr fyddai’n gyfrifol am gynnal a chadw’r ffensys trwy godi lefi . Adroddwyd fod y Cynllun yn dod i ben Rhagfyr 2007 ac nad oes modd estynnu'r dyddiad. Bydd angen i Cymad bwyso ar y Cynulliad i wneud penderfyniad ynglŷn â’r tri safle felly. Mynegwyd pryder am sefyllfa’r Fron gan Aelod oherwydd bod y Fron y tu allan i’r Cynllun bellach ac oherwydd yr amseriad tyn efallai na fyddai’r Fron yn medru dod i mewn i’r Cynllun o gwbl. Adroddwyd gan y Cyng. Bryn Williams (Fron) y cynhelir cyfarfod o’r porwyr yn fuan i drafod Y Fron a gobeithir y bydd y porwyr yn cytuno ar gynllun ac yn cyrhaeddir at gyfaddawd, ac y byddai hwn yn dderbyniol i’r Asiantaethau priodol. Un argymhelliad oedd y byddai grid yn cael ei osod ger Penmaentwrog a chorlan yn cael ei adeiladu wrth yr Hen Gwt Shêf yn Y Fron. Diolchwyd i Mr Elwyn Vaughan am ei gyflwyniadRhagfyr 2006 Cyflwyniad gan Mr Alun Williams , Ysgrifennydd Cymdeithas Y Porwyr Uwchgwyrfai. Pwrpas y cyflwyniad oedd i’r Aelodau dderbyn gwybodaeth o’r sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â Chynllun Tir Comin Uwchgwyrfai. Cafwyd ychydig o gefndir ynglŷn â’r hynny sydd wedi digwydd.
Diolchwyd i Mr Alun Williams am ei gyflwyniad. PageText |




