|
Chwefror 2007 Derbyniwyd adroddiad yn ddiweddar gan Peiriannwr Ymgynghorol Sifil ac Adeiladol yn datgan fod oddeutu 14 medr hyd o wal ym mynwent Llandwrog yn anwastad ac yn beryglus. Penderfynwyd mynd ati i dderbyn pris i ddymchwel y wal ar fyrder. Mae'r wal wedi ei leoli ar lôn gul Ffrwd - Llandwrog. Gweler y darlun isod sydd yn dangos symudiad yn y wal. Disgwylir i'r ymgymerwyr ddechrau ar y gwaith Dydd Llun , 19 Chwefror 2007. Mr Tecwyn Hughes , Y Groeslon, fydd yn arolygu'r gwaith. Atkin Grounworks, Llangbi yw'r ymgymerwyr. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anhawsterau y daw yn sgil y datblygiad angrheidiol hwn. Bydd gwaith yn cychwyn ar waliau Carmel (pwyntio pedair piler ac ail-adeiladu y wal sydd yn disgyn rhwng y pileri) Yn ogystal bydd gwaith ar pileri ym mynwent Bryn'rodyn yn cychwyn ynystod yr wythnosau nesaf. |




